Cynnwys yr Anabl mewn Addysg Gymunedol (DICE)
Rydym yn cynnig 2 raglen DICE. Mae un rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gwaith, ac mae’r llall yn canolbwyntio ar sgiliau, diddordebau a hobïau y tu allan i’r gwaith.
I gofrestru, gweler ein cyrsiau i bobl sydd ag anhawster dysgu neu gyrsiau i bobl sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl.
Neu ffoniwch ni ar 029 2087 2030.
Dysgu ar gyfer Gwaith
Mae’r cyrsiau Dysgu ar gyfer Gwaith yn cynnwys:
- sgiliau ysgrifennu,
- lles,
- rhifedd, a
- sgiliau digidol.
Gall y math hwn o gwrs eich helpu i gyflawni tystysgrif Agored Cymru neu wobr Bathodyn Agored digidol.
Cymhwysedd
Mae cyrsiau Dysgu ar gyfer Gwaith wedi’u cynllunio ar gyfer oedolion sydd â:
- phrofiad o broblemau iechyd meddwl,
- nam corfforol neu synhwyraidd,
- anaf i’r ymennydd, neu
- anawsterau dysgu.
Cost
Os ydych yn gymwys, mae’r cyrsiau hyn yn rhad ac am ddim.
Ariennir y cyrsiau gan Lywodraeth Cymru.
Dysgu Am Oes
Bydd y math hwn o gwrs yn cynnig cyfle i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog i wella eich iechyd, lles a sgiliau cymdeithasol. Mae’r cyrsiau’n cynnwys:
- celf a chrefft,
- crochenwaith, a
Nid yw’r cyrsiau hyn yn arwain at dystysgrif.
Cymhwysedd
Mae cyrsiau Dysgu am Oes yn addas ar gyfer oedolion ag anghenion cymorth uchel.
Cost
Mae cyrsiau’n costio £5.35 yr awr. (Tâl dosbarth crochenwaith £6.25 yr awr)