Datganiad hygyrchedd
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Addysg Oedolion Caerdydd.
Cynhelir y wefan hon gan Gyngor Caerdydd. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais,
- chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
- llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd, a
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Cysylltwch â ni os ydych:
- yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon,
- yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, neu
- os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol
E-bost: ymholiadaddysgoedolion@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 029 2087 2030
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â’r [Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 Safon AA neu Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 Safon AA].
Mae ein Porth cofrestru i ddysgwyr ar gael ar gyfeiriad gwefan ar wahân ac yn cydymffurfio’n rhannol â’r [Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 Safon AA neu Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 Safon AA], oherwydd y diffyg cydymffurfio a nodwyd isod.
Mae cynnwys nad yw’n hygyrch ar y cais trydydd parti
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
- Nid yw rhywfaint o gynnwys yn hygyrch wrth chwyddo at 400% gan ei fod yn arwain at sgrolio llorweddol. Mae hyn yn methu prawf llwyddiant 1.4.10 (Ail-lifo).
- Nid yw cyferbyniadau lliw yn bodloni’r gwerthoedd lleiaf. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant 2.4.13 (Ymddangosiad ffocws).
- Mae penawdau tablau ar goll. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant 1.3.1 (penawdau tabl).
- Mae labeli aria ar goll. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant 2.0 4.1.2 (labeli Aria).
- Mae uchder y llinell yn is na’r isafswm gwerth. Mae hyn yn methu prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.4.10 (gofod rhwng testun).
- Nid oes gan rai delweddau ddewis testun arall, felly ni all pobl sy’n defnyddio darllenydd sgrin gael gafael ar y wybodaeth. Mae hyn yn methu prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.1.1 (cynnwys nad yw’n destun).
O 14 Rhagfyr 2023, rydym wedi codi’r diffyg cydymffurfio â’r cyflenwr trydydd parti sy’n darparu’r rhaglen hon. Rydym hefyd wedi gofyn i’r porth ceisiadau gael ei ddatganiad hygyrchedd cyhoeddedig ei hun. Rydym yn ceisio datrys y materion hyn drwy Ebrill 2024.
Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn rhoi cymorth a hyfforddiant i’r rhai sy’n gweinyddu’r wefan, er mwyn sicrhau bod safonau’n cael eu cadw wrth ddiweddaru’r wefan. Byddwn yn adolygu’r wefan o bryd i’w gilydd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 1 Rhagfyr 2023.
Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 15 Rhagfyr 2023.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 8 Rhagfyr 2023 gan Silktide gyda gwiriadau llaw ychwanegol a gyflawnir gan ein tîm gwefan.
Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 22 Rhagfyr 2023.