Beicio plant lefel 2

Mawrth 25, 2024
Beicio plant lefel 2

Dyddiad ac Amser

25/03/2024-28/03/2024

10:00 am-12:00 pm

Gwybodaeth am y cwrs

Yn ogystal â’r cyrsiau yn yr ysgol, cynhelir cyrsiau Hyfforddiant Beicio Safon Genedlaethol yn ystod gwyliau’r ysgol yn y Ganolfan Diogelwch ar y Ffyrdd ym Maendy.

Lefel 2 i ddigwydd ar ffyrdd a aseswyd o ran risg gerllaw’r Ganolfan Diogelwch ar y Ffyrdd ym Maendy.

Disgwylir i’r hyfforddeion lunio barn a gwneud penderfyniadau ar gyffyrdd a ffyrdd gyda thraffig wrth droi i’r chwith ac i’r dde.

Derbynnir uchafswm o 12 mynychwr ar bob cwrs.

Cymhwysedd

Holl blant Caerdydd 9 oed a hŷn sydd heb gael hyfforddiant beicio yn yr ysgol.

Byddwch yn ymwybodol na ellir mynd â phlant ar y tri sesiwn hyfforddi ar y ffordd oni bai eu bod wedi cwblhau Lefel 1yn llwyddiannus.

Cost

Mae ffi o £20 na ellir ei ad-dalu i drefnu lle ar bob cwrs.

Beth ddylwn i ddod gyda mi i’r wers gyntaf

Beic sy’n addas i’r ffordd a helmed.  Rhaid i feiciau fod mewn cyflwr sy’n addas i’r ffordd, gyda dau frêc sy’n gweithio, teiars wedi eu chwythu a gerau sy’n gweithio (lle bo hynny’n berthnasol). Ceisiwch fod yn y lleoliad 10-15 munud yn gynnar ar Ddiwrnod 1 fel y gall ein hyfforddwyr wirio a gwneud addasiadau rhesymol i unrhyw feic.

Dŵr a byrbryd bach ar gyfer egwyl o 5 munud hanner ffordd drwy’r sesiwn.

Cynhelir y cyrsiau ym mhob tywydd bron a bod, felly efallai bydd angen dillad gwrth-ddŵr neu ddillad sbâr ac eli haul yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn. Mae angen esgidiau addas hefyd.