Cymorth Cyntaf Pediatrig – Hyb y Llyfrgell Ganolog

Gorffennaf 23, 2024
Cymorth Cyntaf Pediatrig - Hyb y Llyfrgell Ganolog

Dyddiad ac Amser

23/07/2024

10:00 am-3:00 pm

Gwybodaeth am y cwrs

Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer unigolion sy’n dymuno bod yn swyddog cymorth cyntaf pediatrig yn y gweithle gyda chyfrifoldeb am les babanod a phlant.

I gwblhau’r cymhwyster hwn, dylai dysgwyr ddisgwyl ymgymryd â 15 awr o ddysgu, gydag isafswm o amser cyswllt, heb gynnwys egwyl, o 12 awr dros ddeuddydd. Nodyn Cyngor Caerdydd: Fel arfer, gallwn gwblhau hyn mewn 10 awr dros 2 ddiwrnod. Ni ellir ei gynnal mewn diwrnod.

Mae’r pynciau dan sylw yn cynnwys rôl a chyfrifoldebau’r swyddog cymorth cyntaf pediatrig; darparu cymorth cyntaf i faban neu blentyn sy’n anymatebol; sut i roi cymorth cyntaf i faban neu blentyn sydd ag anafiadau i’w ben a’i asgwrn cefn, sy’n tagu neu’n dioddef o anaffylacsis.

Sut i gofrestru

Ar gyfer cofrestriadau cysylltwch â’r Llinell Gyngor: 02920 871071 intoworkadviceservice@cardiff.gov.uk

Ar gyfer ymholiadau, e-bostiwch: adultlearningquery@cardiff.gov.uk