Cymorth Cyntaf Lefel 3 – Llyfrgell Ganolog
Mehefin 25, 2024Dyddiad ac Amser
25/06/2024
9:30 am-3:00 pm
Gwybodaeth am y cwrs
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno bod yn swyddogion cymorth cyntaf brys yn y gweithle.
I gwblhau’r cymhwyster hwn, dylai dysgwyr ddisgwyl ymgymryd â 7 awr o ddysgu, dros un diwrnod fel arfer, gydag o leiaf 6 awr o amser cyswllt.
Mae’r pynciau dan sylw yn cynnwys rolau a chyfrifoldebau’r swyddog cymorth cyntaf a sut i asesu digwyddiad, sgiliau cymorth cyntaf CPR a defnyddio AED, darparu cymorth cyntaf i glaf sy’n tagu ac ymdrin â gwaedu allanol a sioc hypofolemig.
Sut i gofrestru
Ar gyfer ymholiadau, e-bostiwch Dysgu Oedolion Caerdydd