Gwasanaeth Cwsmer-Hyb Llaneirwg
Hydref 17, 2024Dyddiad ac Amser
17/10/2024
9:30 am-4:00 pm
Gwybodaeth am y cwrs
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer unigolion sy’n gweithio neu’n paratoi i weithio mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid neu le mae defnyddio’r ffôn yn rhan o’u rôl.
I gwblhau’r cymhwyster hwn, dylai dysgwyr ddisgwyl ymgymryd â 6 awr o ddysgu dan arweiniad.
Mae’r pynciau dan sylw yn cynnwys deall egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid, sut mae anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid yn cael eu ffurfio, gwybod y sgiliau rhyngbersonol a’r ymddygiad priodol sy’n ofynnol yn yr amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid a deall egwyddorion ymateb i broblemau neu gwynion cwsmeriaid.
Sut i gofrestru
Ar gyfer cofrestriadau cysylltwch â’r Llinell Gyngor: 02920 871071 intoworkadviceservice@cardiff.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau, e-bostiwch: adultlearningquery@cardiff.gov.uk