Sut i: Gadw’n Ddiogel Ar-lein – Hyb y Llyfrgell Ganolog
Tachwedd 5, 2024Dyddiad ac Amser
05/11/2024
1:00 pm-3:00 pm
Gwybodaeth am y cwrs
Yn ystod y gweithdy 2 awr hwn byddwch yn cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar-lein. Byddwn yn trafod pynciau fel; nodi sgamiau, gwybod pan fo gwefan neu ap yn ddiogel ac yn ddibynadwy, diogelu eich gwybodaeth bersonol ac awgrymiadau defnyddiol i’ch cadw mor ddiogel â phosibl.
Hyd y cwrs
- 2 awr
Manylion achrediad
- Dim achrediad
- Diben y cwrs yw cynnig cyflwyniad a llwybr i hyfforddiant achrededig.
Sut i gofrestru
- 029 2087 1071
- cymorthdigidol@caerdydd.gov.uk
- Gyda’r Tîm Cymorth Digidol neu’r Tîm i Mewn i Waith yn eich hyb lleol.