Gwirfoddoli gyda Dysgu i Oedolion
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o fagu hyder, cwrdd â phobl newydd, helpu eich gymuned, a dysgu sgiliau newydd. Gall unrhyw un dros 16 oed wirfoddoli gyda ni.
Mae ein cyfleoedd gwirfoddoli yn cynnwys:
Dysgu Oedolion
Gweithio’n agos gyda thiwtoriaid i ddarparu profiad dysgu positif.
- Helpu dysgwyr gyda thasgau ymarferol, sgiliau TGCh, sgiliau llythrennedd neu rifedd.
- Cefnogi a hybu hyder y dysgwr.
- Cyflawni tasgau gweinyddol ar ran y tiwtor.
Tîm Digidol
Cefnogi pobl i wella eu hyder digidol gyda defnyddio dyfeisiau
- Cynorthwyo Swyddogion Hyfforddi i greu Gweithdai Digidol
- Rhoi cymorth digidol 1-i-1 i helpu pobl i gael mynediad at Wasanaethau’r Cyngor ar-lein.
- Cefnogi dysgwyr mewn amgylcheddau ystafell ddosbarth yn ystod Gweithdai Digidol.
Prosiect Lluosi
Cefnogi’r Prosiect Lluosi i ddatblygu sgiliau rhifedd swyddogaethol pobl
- Cynorthwyo Swyddogion Cynhwysiant Cymunedol i gyflwyno Gweithgareddau Celf a Chrefft mewn lleoliadau cymunedol.
- Ein helpu ni i gyflwyno gweithdai Ryseitiau Rhad
- Cynorthwyo Swyddogion Hyfforddi i gynnig Cyrsiau Rhifedd mewn amrywiaeth o leoliadau.
- Cymorth gyda Chlybiau Gwaith Cartref Rhieni mewn Ysgolion Cynradd
- Cefnogi Ymgeiswyr Adeiladu i ddysgu sut i ddefnyddio Tâp Mesur yn effeithiol yn yr Academi Adeiladu ar y safle.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, e-bostiwch gwirfoddoli@caerdydd.gov.uk neu ewch i wefan Gwirfoddoli Caerdydd i weld rhagor o gyfleoedd.